Logo Hwiangerddi dot Cymru

Cwcw lon

Wrth ddychwel tuag adref, mi glywais gwcw lon 
Oedd newydd groesi'r moroedd i'r ynys fechan hon. 

Cytgan:
Holi a ci,
Holiacici a holiacwcw, 
Holiacici a holiacwcw,  

Holiacici a holiacwcw,
Holiacici a hoi 

A gwcw gynta’r tymor, a ganai yn y coed 
‘Run fath a'r gwcw gyntaf a ganodd gynta’ ‘rioed. 

Cytgan: 
Holi a ci,
Holiacici a holiacwcw cwcw, 
Holiacici a holiacwcw cwcw, 

Holiacici a holiacwcw cwcw,
Holiacici a hoi 

Mi drois yn ôl i chwilio y glasgoed yn y llwyn, 
I edrych rhwng y brigau ble roedd y delyn mwyn. 

Cytgan (cwcw x3) 

Mi gerddais nes dychwelais o dan fy medw bren, 
Ac yno roedd y gwcw yn canu uwch fy mhen. 

Cytgan (cwcw x4) 

O diolch iti, gwcw, ein bod ni yma’n cwrdd; 
Mi sychais i fy Ilygaid, a’r gwcw aeth i ffwrdd, 

Cytgan (cwcw x5) 

Traddodiadol

The happy cookoo

While returning home, I heard a happy cookoo 
that had just crossed the seas to this small island. 

Chorus: 
Hol ya kee,
Hol-ya-kee-kee a hol-ya-cookoo, 
Hol-ya-kee-kee a hol-ya-cookoo,  
Hol-ya-kee-kee a hol-ya-cookoo,
Hol-ya-kee-kee a hoy 

And the first cookoo of the season, sang in the woods 
the same as the first cookoo that ever sang. 

Chorus: 
Hol ya kee,
Hol-ya-kee-kee a hol-ya-cookoo cookoo, 
Hol-ya-kee-kee a hol-ya-cookoo cookoo,  
Hol-ya-kee-kee a hol-ya-cookoo cookoo,
Hol-ya-kee-kee a hoy 

I turned to search the greenwood of the hedge, 
to look between the branches where the gentle harp was. 

Chorus (cookoo x3) 

I walked until I returned beneath my birchwood, 
and there was the cookoo singing above my head. 

Chorus (cookoo x4) 

Oh thank you, cookoo, that we should meet here; 
I dried my eyes, and the cookoo flew away. 

Chorus (cookoo x5) 

Traditional

X

Amdanom

Fel siaradwr ail iaith gyda phlentyn bach, sylweddolais na wyddem y geiriau na’r tonau i’r hwiangerddi Cymraeg. Bu rhaid i mi eu ddysgu gair am air a nodyn wrth nodyn oddi wrth fy ngwraig amyneddgar, tra bod hi’n canu i'm merch fach. Rwy’n siwr nad wyf ar fy hun yn y sefyllfa yma, felly creuais i’r wefan yma i geisio helpu fy hun ac eraill.

I built this website because (as a second language Welsh speaker) I neither know the words nor the tunes to any Welsh language nursery rhymes, and am learning them slowly and painfully from my wonderful and patient wife as we sing them to my wonderful daughter. Thank you both for your patience with your tone deaf father / husband, and I hope this resource helps some others out there in my position.

X

Polisi cwcis

Ni ddefnwyddir cwcis ar y wefan yma (heblaw y mewnblaniadau SoundCloud). Er rydyn ni yn achlysurol yn mwynau cwci gyda phaned o de tra’n canu ei’n hoff hwiangerddi, ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod gysylltiedig â cwcis

This website doesn't use cookies (although the SoundCloud embeds look like they do). We do however enjoy the occasional cookie and cuppa while enjoying singing some of our favourate nursery rhymes. But please don't overdo it, we cannot accept any responsibility for cookie related injuries or illness.