Fuoch chi erioed yn morio?
Fuoch chi erioed yn morio?
Wel do mewn padell ffrio;
chwythodd y gwynt fi i'r Eil o Man,
a dyna lle bum i'n crio
Crio'n arw arw,
dim byd ond tywydd garw;
be' glywen i'n rhywle uwch fy mhen,
ond gwylan wen yn galw
Gwylan wen yn galw -
“Wel wir mae'n biti garw.
Rhaid i ti aros hanner dydd,
yn llonydd am y llanw.”
Llanw'n dwad wedyn,
a'r gwynt yn troi yn sydyn;
lansio'r badell ar y gro,
a nofio'n ôl i Nefyn
Traddodiadol
Have you ever been sailing?
Have you ever been sailing?
Wel yes, in a frying pan;
the wind belw me to the Isle of Man,
and that's where I was crying
Crying very bitterly,
nothing but bad weather;
what did I hear somewhere above my head,
but a white seagull calling
A white seagull was calling -
“Well that's a great pity.
You'll have to wait half a day,
peacefully for the tide.”
The tide came then,
and the wind turned suddenly;
[I] launched the pan on the gravel
and swam back to Nefyn
Traditional