Cân y Fari Lwyd
(Oddi allan)
Wel dyma ni'n dwad
Gyfeillion diniwad
I ofyn am gennad i ganu.
Os na chawn ni gennad,
Cewch glywed ar ganiad
Beth fydd ein dymuniad - nos heno.
Agorwch y dryse,
Mae'r rhew wrth ein sodle,
Mae'r rhew wrth ein sodle - nos heno.
Os oes gennych atebion,
Wel, dewch a nhw'n union
I ateb prydyddion y gwylie.
(Ateb oddi mewn)
O, cerwch ar gered,
Mae'ch ffordd yn agored,
Mae'r ffordd yn agored - nos heno.
(Oddi allan)
Nid ewn ni ar gered
Heb dorri ein syched,
Heb dorri ein syched - nos heno.
(Oddi mewn)
Mae ffynnon yn tarddu
Ym mhistyll y Beili,
Trwy ffafwr cewch lymed i brofi.
(Oddi allan)
Nid yfwn o'r ffynnon
I oeri ein calon
I fagu clefydon - y gwylie.
(Oddi mewn)
Rhowch glywad, wyr doethion,
Pa faint y'ch o ddynion
A beth yn wych union, (x3) yw'ch enwau.
(Oddi allan)
Rhyw bump o wyr hawddgar,
Rhai gorau y ddaear
Yn canu mewn gwir air (x3) am gwrw.
(Oddi mewn)
Os llymaid bach melys
A geisiwch dros wefus
Dewch atom yn hwylus (x3) i'r aelwyd.
Tu Fewn...
Y Parti:
Mae Mari Lwyd lawen
Yn dod i'ch ty’n rhonden
A chanu yw ei diben, mi dybiaf.
Yr Ateb:
Rhowch glywad wyr difrad
O ble rych chi'n dwad
A beth yw'ch gofyniad gaf enwi.
Y Parti:
O ardal Y Creigiau,
Pentyrch a'r cyffiniau
Fe ganwn ein geiriau am gwrw.
Yr Ateb:
Derbyniwn yn llawen
Ymryson yr awen
I gynnal y gynnen drwy ganu.
Y Parti:
Mi ganwn am wythnos
Ac hefyd bythefnos
A mis os bydd achos baidd i chwi.
Yr Ateb:
Mi ganwn am flwyddyn
Os cawn Dduw i'n canlyn
Heb ofni un gelyn y gwyliau.
Y Parti:
Gollyngwch yn rhugil
Na fyddwch yn gynnil
O! Tapiwch y faril i'r Fari.
Yr Ateb:
O! Cenwch eich nodau
Ac felly wnawn ninnau
A'r sawl a fo orau gaiff gwrw.
Y Parti:
Fe ganwn yn awr
I Ferched y Wawr
Am ddiod ac enllyn i'n llonni.
Yr Ateb:
I'r Fari sychedig
Fe rown ein calennig
A'r cwrw yn ffisig i’w pheswch.
Y Parti:
Derbyniwn yn llawen,
Y croeso mewn casgen
Cyflawnwyd y diben mi dybiaf.
Diolch i Glwb y Dwrlyn i'r fersiwn hwn
The Mari Lwyd song
(From outside)
Well, here we come
Innocent friends
To ask may we have leave to sing.
If we don’t have leave,
You can listen to the song
that tells of our leaving - tonight.
Open the doors,
There’s ice under our heels,
There’s ice under our heels - tonight.
If you have answers,
Well, bring them exactly
To answer the holidays poets.
(Answer from inside)
Oh, go walk,
Your way is open,
Your way is open - tonight.
(From outside)
We won’t walk away
Without breaking our thirst,
Without breaking our thirst - tonight.
(From inside)
The fountain originates
In the Bailey’s spring,
As a favour have a drink to taste.
(From outside)
We won’t drink from a fountain
To colden our hearts
To breed fever - [of] the holiday.
(From inside)
Listen, wise men,
What size is your party (of men)
And what exactly is great, (x3) are your names.
(From outside)
Some five pleasant men,
Some of the best on Earth
Singing true words (x3) for beer.
(From inside)
If there’s a small sweet swig [of beer]
That you can try on your lips
Come to us in good spirits (x3) to the hearth.
Inside...
The Party (of the Mari Lwyd):
The joyful Mary Lwyd
has come to your house en mass
and singing is it’s purpose, I suppose.
The Response (from the residents):
Give a listen, patriotic men
Where do you come from
And what is your ask that I can name
The Party:
From the area of Creigiau,
Pentyrch and it’s outskirts
We sing our words for beer.
The Response:
We receive you joyfully
Contend with the muse
To maintain the luck through singing.
The Party:
We will sing for a week
And a fortnight as well
And a month if you will dare.
The Response:
We will sing for a year
If we get God to follow us
Without fearing any enemy of the holidays.
The Party:
Fluently drop
You will not be subtle
Oh! Tap [Open] the barrel for the Mary.
The Response:
Oh! Sing your notes
And so will we
And the person who’s best will have beer.
The Party:
We will sing now
To Merched y Wawr
For drink and a snack to make us happy
The Response:
For the thirsty Mari
We give our New Year’s gift
And the beer is medicine for her cough.
The Party:
We accept joyfully,
The welcome in a barrel
Accomplished the purpose, I believe.
With thanks to Clwb y Dwrlyn for this version