Logo Hwiangerddi dot Cymru

Y deryn pur

Aderyn pur â'r adain las, bydd i mi'n was dibryder,
O brysur brysia at y ferch lle rhoes i'm serch a’m hyder
Dos di ati, dywed wrthi, 'mod i'n wylo dŵr yr heli;
'Mod i'n irad am ei gwelad, ac o'i chariad yn ffaelu â cherddad,
O Dduw faddeuo'r hardd ei llun am boeni dyn mor galad.

Pan o'wn i'n hoenus iawn fy hwyl, ddiwrnod gŵyl yn gwylio,
Canfyddais fenyw lana 'rioed, ar ysgafn droed yn rhodio.
Pan fe’i gwelais, syth mi sefais, yn fy nghalon mi feddyliais:
Dyma ddynas lana'r deyrnas, a'i gwên yn harddu’r oll o'i chwmpas,
Ni fynswn gredu'r un dyn byw nad oedd hi rhyw angyles.

The pure bird

Pure bird with blue wings, will be a carefree servant to me,
Oh busy rush to the girl I gave my heart and confidence
Go to her, tell her that I’m weeping salty tears;
That I am longing to see her, and from her love failing to walk,
O Lord forgive her beauty for causing pain to a man so tough.

When I was cheerful in my spirit, watching a festival day,
I discovered the purest girl there ever was, strolling lightly.
When I saw her, I immediately stopped, in my heart I thought:
This is the fairest lady in the kingdom, with a smile beautifying all around her,
I wouldn’t believe a man alive that she was not some angel.

X

Amdanom

Fel siaradwr ail iaith gyda phlentyn bach, sylweddolais na wyddem y geiriau na’r tonau i’r hwiangerddi Cymraeg. Bu rhaid i mi eu ddysgu gair am air a nodyn wrth nodyn oddi wrth fy ngwraig amyneddgar, tra bod hi’n canu i'm merch fach. Rwy’n siwr nad wyf ar fy hun yn y sefyllfa yma, felly creuais i’r wefan yma i geisio helpu fy hun ac eraill.

I built this website because (as a second language Welsh speaker) I neither know the words nor the tunes to any Welsh language nursery rhymes, and am learning them slowly and painfully from my wonderful and patient wife as we sing them to my wonderful daughter. Thank you both for your patience with your tone deaf father / husband, and I hope this resource helps some others out there in my position.

X

Polisi cwcis

Ni ddefnwyddir cwcis ar y wefan yma (heblaw y mewnblaniadau SoundCloud). Er rydyn ni yn achlysurol yn mwynau cwci gyda phaned o de tra’n canu ei’n hoff hwiangerddi, ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod gysylltiedig â cwcis

This website doesn't use cookies (although the SoundCloud embeds look like they do). We do however enjoy the occasional cookie and cuppa while enjoying singing some of our favourate nursery rhymes. But please don't overdo it, we cannot accept any responsibility for cookie related injuries or illness.